Pa gyrsiau eraill allaf i eu dilyn i ddatblygu fy sgiliau hyfforddi?

Yn ychwanegol at y cymwysterau hyfforddi a gaiff eu trefnu gan y corff llywodraethol cenedlaethol, mae yna sefydliadau eraill sy'n cynnal cyrsiau i gyd-fynd รข chymwysterau sy'n bodoli ac adeiladu arnynt gan gynnig cyfleoedd da i ddatblygu'n broffesiynol. Mae'r rhain yn cynnwys:

sports coach UK (scUK)

Mae scUK yn darparu dros ugain o weithdai cyffredinol ar gyfer hyfforddwyr o bob lefel. Mae'r gweithdai yn canolbwyntio ar y sgiliau/gwybodaeth hanfodol sydd eu hangen ar unrhyw hyfforddwr, waeth pa gamp, er enghraifft, hyfforddi plant, cynllunio sesiynau hyfforddi, amddiffyn plant, maetheg a seicoleg. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y gweithdai sydd ar gael, cliciwch ar y raglen ar y dde.

Cymorth Cyntaf

Erbyn hyn, mae llawer o chwaraeon yn disgwyl i hyfforddwyr gael cymhwyster cymorth cyntaf. Hwyrach y bydd eich corff llywodraethol yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am gyrsiau ond, os nad ydych yn si?r sut i gael cymhwyster cymorth cyntaf, trowch at y gwefannau canlynol:

Gwefan Ambiwlans Sant Ioan Cymru

Cyflymder, Ystwythder a Chwimder

Mae cyflymder, ystwythder a chwimder yn dod yn ddisgyblaeth a gaiff ei chydnabod fwyfwy. Mae cyflymder, ystwythder a chwimder yn nodweddion y mae pob athletwr yn eu chwennych, ac o ganlyniad mae cyrsiau penodol ar gael i hyfforddwyr i'w cynorthwyo i ddatblygu'r nodweddion hyn. Ewch i wefan SAQ Wales ar y dolenni cyswllt isod i gael gwybod mwy am y cyrsiau a sut i gofrestru arnynt.

Sports Leaders UK

Mae cael cymhwyster mewn sgiliau arwain yn ffordd wych o ddechrau ar eich gyrfa fel hyfforddwr. Mae'r rhain yn gymwysterau cenedlaethol sy'n datblygu ystod o sgiliau arwain megis cynllunio, paratoi a chyflwyno sesiwn chwaraeon. Mae'r cymwysterau'n berthnasol i nifer o chwaraeon ac felly'n fan cychwyn delfrydol i bawb sy'n awyddus i fynd ati i arwain neu hyfforddi gweithgareddau chwaraeon. Mae Sports Leaders UK yn cynnal cwrs sylfaenol ar arwain teithiau yn ogystal.

Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru

Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.