Hyfforddi pobl anabl

Disability Table TennisOs hoffech wybod mwy am weithio gyda phobl anabl mewn chwaraeon neu os ydych am ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau eich hun o ran hyfforddi pobl anabl, beth am roi cynnig ar y canlynol:

Mynychu gweithdai sports coach UK

Mae sports coach UK wedi datblygu dau weithdy:

Sut i hyfforddi pobl anabl mewn chwaraeon - gweithdy sy'n para dwy awr a fydd yn rhoi cyflwyniad ac arweiniad i unrhyw hyfforddwr sy'n gweithio gyda phobl anabl. Bydd yn caniatáu i chi benderfynu sut i gynnwys pobl anabl mewn chwaraeon, dewis gweithgareddau hyfforddi priodol ar eu cyfer a chreu amgylcheddau hyfforddi effeithiol.

Hyfforddi pobl anabl - gweithdy sy'n para tair awr a fydd yn cynorthwyo hyfforddwyr i ddeall pryd y byddai'n fwyaf priodol i integreiddio pobl anabl a phryd y byddai eu cadw ar wahân yn well. Ceir cyfleoedd hefyd i adolygu ac ymestyn eich gwybodaeth am addasu eich dull o hyfforddi i ddiwallu anghenion penodol perfformwyr anabl, cynllunio a monitro rhaglen ar gyfer chwaraewr anabl a chyfeirio chwaraewyr at gyfleoedd priodol i gystadlu a chael hyfforddiant pellach.

Rhagor o wybodaeth am gyrsiau Sports coach UK

Adnoddau ar gyfer hyfforddi perfformwyr anabl

Gallwch gael copïau o'r adnoddau canlynol gan Coachwise:

Coaching disabled performers - adnodd ar gyfer astudio gartref. Cymerir bod gennych rywfaint o brofiad o hyfforddi'n barod, a bydd modd i chi roi llawer o'ch profiad a'ch gwybodaeth ar waith wrth hyfforddi pobl anabl. Bydd yr arweiniad cynhwysfawr hwn yn eich cynorthwyo i benderfynu sut, a phryd, y bydd angen i chi addasu eich ymarfer hyfforddi er mwyn diwallu anghenion penodol pobl anabl. Gweld y Llyfr Hwn Cynghorir chi i fynychu gweithdy yn ogystal â darllen yr adnodd.

Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru

Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.