Ymchwil ym Maes Hyfforddi

Mae pwysigrwydd gwaith ymchwil i'r proffesiwn hyfforddi wedi cael ei danlinellu'n ddiweddar gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac felly, mae'r gwaith ymchwil sy'n digwydd ym maes hyfforddi yn cynyddu. Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod pa waith ymchwil sydd ar gael, cymerwch olwg ar y canlynol:

sports Coach UK

Mae sports coach UK wedi cynnal prosiect ymchwil mawr mewn perthynas â hyfforddi yn y DU yn ogystal â nifer o brosiectau eraill sy'n llai o faint.

Cyngor Chwaraeon Cymru - Canolfan Wybodaeth

Y Ganolfan Wybodaeth yw'r brif lyfrgell arbenigol ar gyfer gwybodaeth am chwaraeon yng Nghymru. Er nad yw'r Ganolfan yn gwneud gwaith ymchwil nac yn cyhoeddi gwaith ymchwil, mae'n gyfrifol am gasglu gwybodaeth a chaiff y wybodaeth hon ei chrynhoi mewn bwletin misol.

Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru

Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.