Amddiffyn plant

Erbyn hyn mae'n fwyfwy pwysig i hyfforddwyr fod yn ymwybodol o faterion yn ymwneud ag amddiffyn plant. Mae nifer o gyrff llywodraethol yn ymdrin â'r pwnc hwn fel rhan o'u cymhwyster hyfforddi, neu'n gofyn i hyfforddwyr fynd ar gwrs ymwybyddiaeth. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am amddiffyn plant drwy:

  • Fynychu gweithdy amddiffyn plant.
  • Darllen cyhoeddiad/pecyn Astudio Gartref.
  • Cysylltu â sefydliad neu gorff sy'n gyfrifol am amddiffyn plant.

Mynychu gweithdy amddiffyn plant Arfer Da ac Amddiffyn Plant

Mae gweithdy o'r enw Arfer Da ac Amddiffyn Plant yn cael ei gynnal gan Sports coach UK. Mae'r gweithdy, sy'n para tair awr, yn benodol ar gyfer hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ym maes chwaraeon ac mae'n canolbwyntio ar yr arferion da sy'n hanfodol i amddiffyn y plentyn a'r hyfforddwr. Mae'r gweithdai hyn yn cael eu cynnal ledled Cymru. Bydd y cyswllt isod yn rhoi manylion cyrsiau sy'n cael eu cynnal yn eich ardal, neu os oes gennych grŵp o hyfforddwyr (o leiaf chwech) a fyddai'n hoffi mynychu'r gweithdy, efallai y gallech ystyried trefnu eich gweithdy eich hun. Bydd y cyswllt isod yn eich arwain drwy'r broses.

Rhaglen Ymwybyddiaeth ynghylch Amddiffyn Plant yr NSPCC/Educare

Cadw Plant yn Ddiogel Mewn Chwaraeon

Datblygwyd y rhaglen hyfforddi gychwynnol hon i gynorthwyo clybiau i sicrhau bod eu staff a'u gwirfoddolwyr yn cydnabod ac yn deall eu rôl o ran amddiffyn y plant sydd yn eu gofal. Bydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i adnabod peryglon posibl i ddiogelwch y plant, ac ymateb iddynt yn briodol.

Gallwch gwblhau'r rhaglen gartref neu yn eich clwb. Bydd yn fuddiol i unrhyw un sy'n gweithio gyda phlant mewn clwb chwaraeon neu ddarpariaeth chwaraeon arall.

Hoffwn gael rhagor o fanylion am y rhaglen hon

Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru

Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.