Hoffech chi gymryd rhan yn rhaglen Campau'r Ddraig?

Mae Campau'r Ddraig yn fenter a gaiff ei rhedeg gan Gyngor Chwaraeon Cymru a'i hariannu gan y Loteri. Mae'r rhaglen yn dibynnu'n fawr ar wirfoddolwyr i gynorthwyo i gynnal gemau a gweithgareddau ar gyfer clybiau ar ôl ysgol a chlybiau cymunedol. Nid oes angen unrhyw brofiad arnoch yn hyn o beth gan fod hyfforddiant a chymorth ar gael ar gyfer pob gwirfoddolwr.

Mae'n rhaid i wirfoddolwyr fynychu gweithdy sy'n cael ei drefnu gan raglen Campau'r Ddraig. Mae'r gweithdy hwn yn cyflwyno'r gwirfoddolwyr i'r rhaglen ac yn rhoi syniadau gwych iddynt ar gyfer addasu ac arwain gweithgareddau. Os oes gennych ddiddordeb mewn hyfforddi plant o oed ysgol gynradd mewn amrywiaeth o chwaraeon, megis athletau, criced, pêl-droed, hoci, pêl-rwyd, rygbi, tennis, neu gemau goresgyn, hwyrach y bydd rhaglen Campau'r Ddraig yn addas ar eich cyfer.

Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru

Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.