Moeseg a'r Côd Ymarfer ar gyfer Hyfforddwyr Chwaraeon
Mae'n rhaid i hyfforddi, fel proffesiwn sy'n datblygu, ddangos elfen uchel o onestrwydd a chywirdeb a disgwylir i hyfforddwyr chwaraeon gydymffurfio â safonau moesegol. Mae Tegwch mewn Chwaraeon yn ymwneud â chwarae teg, mynediad cyfartal i chwaraeon, adnabod anghydraddoldebau a chymryd camau i fynd i'r afael â nhw. Eich cyfrifoldeb chi, fel hyfforddwyr, yw:
- Adnabod anghydraddoldebau.
- Sicrhau bod pobl anabl, pobl o leiafrifoedd ethnig, menywod a merched i gyd yn cael yr un mynediad i'ch sesiynau hyfforddi.
- Sicrhau bod yr holl gyfranogwyr yn cael eu trin yn gyfartal, gan gydnabod bod gan wahanol bobl anghenion a dyheadau gwahanol.
- Cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod eich camp yn un sy'n agored i bawb yn y gymuned.
Mae'n bwysig bod hyfforddwyr yn deall eu cyfrifoldebau, ac yn gweithredu arnynt, gan gofio'r cysyniad allweddol o gael hwyl a phleser wrth gymryd rhan yn ogystal â'r elfen o gyflawniad. Mae'r côd ymarfer yn diffinio'r hyn sy'n nodweddu hyfforddi da.
Hwyrach y bydd gan eich corff llywodraethol ei gôd ymarfer ei hun ar gyfer hyfforddwyr. Byddai'n syniad da cysylltu â'ch corff llywodraethol i weld pa wybodaeth sydd ar gael.
- Hawliau - mae'n rhaid i hyfforddwyr barchu ac amddiffyn hawliau pob unigolyn i gyfranogi mewn chwaraeon.
- Perthynas pobl â'i gilydd - mae'n rhaid i hyfforddwyr feithrin perthynas ag athletwyr (ac eraill) sy'n seiliedig ar ddidwylledd a gonestrwydd ynghyd â pharch ac ymddiriedaeth o'r ddwy ochr.
- Cyfrifoldebau, safonau personol - mae'n rhaid i hyfforddwyr ymddwyn yn briodol bob amser.
- Cyfrifoldebau, safonau proffesiynol - er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf posibl i athletwyr, a lleihau'r peryglon, mae'n rhaid i hyfforddwyr gynnal lefel uchel o gymhwysedd drwy ennill cymwysterau a dangos parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant parhaus sy'n sicrhau ymarfer diogel a chywir.
Mae'r côd hwn yn eithriadol o bwysig ac argymhellir bod pob hyfforddwr yn cael copi. Gellir prynu hwn gan Coachwise am £2.50
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
