Ffitrwydd ac Ymarfer
Cafodd y Gofrestr Hyfforddwyr Ymarfer Proffesiynol ei sefydlu i gydnabod cyrhaeddiad personol a chymwyseddau hyfforddwyr ymarfer cymwysedig ac i helpu diogelu buddiannau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau hyfforddwyr ymarfer a ffitrwydd. Mae’r Gofrestr yn defnyddio proses hunanreoliad sy’n cydnabod cymwysterau’r diwydiant, cymhwysedd ymarferol ac sy’n golygu fod angen i hyfforddwyr ymarfer proffesiynol weithio o fewn Cod o Ymarfer Ethegol.
Medrwch gysylltu â chynrychiolydd Cymru y Gofrestr Hyfforddwyr Ymarfer Proffesiynol, John Byers ar 029 2022 4369 neu e-bost Wales@exerciseregister.org
Sefydlwyd Cyngor Ymarfer Cymru i hyrwyddo datblygiadau yn y diwydiant Iechyd a Ffitrwydd yng Nghymru gyda’r nod o greu’r isadeiledd priodol i ehangu’r gweithlu ymarfer a ffitrwydd gan gefnogi strategaeth Dringo’n Uwch Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Cyngor Ymarfer yn ymgynghori gyda chyflogwyr a staff ac yn rhoi cyngor, cefnogaeth ac adfocatiaeth ar faterion megis hyfforddiant, datblygu gyrfa ac arfer gorau o fewn y Sector Iechyd a Ffitrwydd.
Mae hefyd lawer o gyhoeddiadau yn ymwneud â ffitrwydd ar gael gan Coachwise, yn cynnwys hyfforddiant cylchred, profi ffitrwydd, pŵer (PASS), ystwythder, cyflymder a sefydlogwyd, cynhesu lan ac oeri lawr a chyflyru cyffredinol.
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
