Gwaith datblygu Athletwyr Hirdymor

Mae gwaith datblygu athletwyr hirdymor yn canolbwyntio ar sicrhau bod athletwyr yn datblygu gymaint ag sy'n bosibl fel eu bod yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn chwaraeon a gwneud ymarfer corff trwy gydol eu bywydau. Yng Nghymru, y materion allweddol yw:

  • Sicrhau bod cystadlaethau priodol ar gael i blant
  • Annog plant i gymryd rhan mewn cynifer o chwaraeon ag sy'n bosibl pan fyddant yn ifanc a fydd yn eu paratoi yn fwy effeithiol i arbenigo mewn un gamp yn nes ymlaen.

Mae gwaith datblygu athletwyr hirdymor yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod hyfforddwyr o ansawdd uchel yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc pan fyddant yn dechrau ymgymryd â champ arbennig. Er mai'r bwriad yn y pen draw yw cynhyrchu mwy o athletwyr sy'n gallu perfformio ar y lefel uchaf un mae'r cynllun hefyd yn cynnig cymorth i'r rheiny sy'n dymuno cymryd rhan mewn chwaraeon yn eu hamser hamdden. Mae gwaith datblygu athletwyr hirdymor yn athroniaeth sy'n seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

  • Hanfodion a hwyl - Yr angen i blant ddysgu ystod eang o sgiliau symud mewn amgylchedd hwyl, gan ddefnyddio dull gweithredu amlsgiliau.
  • Dysgu Hyfforddi - Cyflwyno sgiliau sylfaenol i'r gweithgareddau y mae'r plant yn eu hoffi drwy ymarfer yn rheolaidd mewn amgylchedd llawn hwyl.
  • Hyfforddi i hyfforddi - Rhaglenni personol yn seiliedig ar ddatblygiad unigol.
  • Hyfforddi i gystadlu - Canolbwyntio ar ganfod cryfderau a gwendidau mewn perthynas â champ neu safle penodol a llunio rhaglen i gyd-fynd â'r cryfderau a'r gwendidau hynny.
  • Hyfforddi i Ennill - Hyfforddiant sy'n canolbwyntio ar sicrhau'r perfformiad gorau posibl neu gyrraedd y brig mewn cystadlaethau penodol.
  • Parhau - Sicrhau bod perfformwyr yn ymgymryd â gweithgareddau eraill ar ôl rhoi'r gorau i gystadlu.

(tynnwyd o 'Coaching for Long Term Athlete Development' gan Ian Stafford ac Istvan Balyi)

Mae gwaith datblygu athletwyr hirdymor yn dod yn gysyniad pwysig ar gyfer chwaraeon yn y DU. Mae nifer o chwaraeon yn edrych ar y model hwn ar hyn o bryd ac yn dechrau ei integreiddio i'w cynlluniau datblygu. Mae hon yn broses sy'n cynnig her, ac mae pob camp mewn cyfnod gwahanol o safbwynt ei gweithredu. Am ragor o wybodaeth am waith datblygu athletwyr hirdymor, cymerwch olwg ar y canlynol:

1)Mae gan wefan sports coach UK adran bwrpasol sy'n ymdrin â gwaith datblygu athletwyr hirdymor. Mae'n darparu gwybodaeth gefndir ac yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi yn rheolaidd ynghylch sut y mae gwaith datblygu athletwyr hirdymor yn dod yn ei flaen yn y DU.

2)Mynnwch gopi o'r daflen sy'n dwyn y teitl Preparing for Life in Sport - A guide to Long Term Athlete Development. Mae'r daflen hon ar gael gan Coachwise am £2.50

3)Mynnwch gopi o'r llyfr Coaching for Long-Term Athlete Development: To improve participation and performance in Sport. Mae'r llyfr hwn ar gael gan Coachwise am £9.99

4)Mynychwch weithdy sy'n ymwneud â gwaith datblygu athletwyr hirdymor. Mae Sports coach UK wedi cynllunio tri gweithdy:

  • Cyflwyniad i Waith Datblygu Athletwyr Hirdymor - gweithdy ar gyfer hyfforddwyr i'w cynorthwyo i ddeall elfennau allweddol gwaith datblygu athletwyr hirdymor a'r hyn y mae'n ei olygu i hyfforddwyr a'r gwaith o hyfforddi.
  • Hanfodion Symud - gweithdy ymarferol ar gyfer hyfforddwyr sy'n mynd i'r afael â lefel gyntaf y model datblygu athletwyr hirdymor. Mae'n edrych ar Ystwythder, Cydbwysedd a Chydsymud.
  • Rheoli Hyfforddiant o fewn Gwaith Datblygu Athletwyr Hirdymor - mae'r gweithdy hwn wedi'i anelu at y bobl hynny sy'n rheoli hyfforddwyr er mwyn gwella'u dealltwriaeth a'u gwybodaeth am y model a sut i'w ddefnyddio.

5)Cysylltwch â'r corff llywodraethol cenedlaethol ar gyfer eich camp er mwyn cael gwybodaeth am yr hyn y mae'n ei wneud.

Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru

Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.