Arwain gweithgareddau chwaraeon

Mae Sports Leaders UK yn defnyddio chwaraeon i gynorthwyo pobl i feithrin sgiliau hanfodol. Gall unrhyw un ddod yn arweinydd chwaraeon cyn belled â'u bod yn 14 oed neu'n hŵn ac yn barod i dorchi llewys. Mae strwythur mewn grym sy'n caniatáu i chi gynorthwyo mewn sesiynau a'u harwain.

Os ydych yn awyddus i ddilyn cwrs rhagarweiniol fel cam tuag at ddod yn hyfforddwr mewn camp benodol yna gallech ddechrau arni drwy ddilyn cynllun Cymhwyster ar gyfer Arweinwyr Chwaraeon (Sports Leader Award). Yn sicr, nid oes angen i chi ragori mewn unrhyw gamp i gymryd rhan.

Mae'r cymwysterau hyn, sydd ar lefelau 1, 2 a 3, wedi'u cydnabod yn genedlaethol, ac mae'r cyrsiau yn datblygu ystod o sgiliau arwain megis cynllunio, paratoi a chyflwyno sesiwn chwaraeon. Mae'r cymwysterau'n berthnasol ar gyfer nifer o chwaraeon felly maent yn fan cychwyn delfrydol i'r rheiny sy'n awyddus i gymryd rhan yn y gwaith o arwain neu hyfforddi gweithgareddau chwaraeon. Mae'r Cymwysterau ar gyfer Arweinwyr Chwaraeon yn sicrhau eich bod yn dysgu drwy wneud pethau. Yn rhan o'r cwrs, byddwch yn arwain chwaraeon a gweithgareddau corfforol fel gwirfoddolwr. Byddwch yn dysgu sut i drefnu ac ysgogi eich hun a phobl eraill, ac yn gwella eich sgiliau cyfathrebu. Gall hyn roi hwb gwirioneddol i'ch hyder a'ch cynorthwyo gyda gwaith, addysg a bywyd.

Mae'r cyrsiau yn arbennig o dda ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 18 oed. Felly os oes gennych fab neu ferch yn eu harddegau hwyr, gwnewch yn si?r eu bod yn cymryd rhan - gallai fod yn ddigon i'w trawsnewid!

Taflwch lygad ar ein hastudiaethau achos o beth mae’r arweinwyr chwaraeon yn medru cyflawni:

Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru

Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.