Menywod a Hyfforddi

Women and CoachingMae hyfforddwyr yn hanfodol bwysig ym myd chwaraeon ac mae cael cynrychiolaeth dda o hyfforddwyr sy'n fenywod yr un mor bwysig. Mae'n cael ei gydnabod nad oes digon o fenywod yn ymwneud â hyfforddi chwaraeon yn y DU ac mae mynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn rhwng dynion a menywod yn faes pwysig. Mae'r angen am ragor o hyfforddwragedd yn bwysig am nifer o resymau. Yn gyntaf, mae hyfforddwragedd yn cynnig sgiliau a phrofiadau newydd a gallant fod yn fodelau rôl ar gyfer plant ifanc, gan roi hyder ac anogaeth i fenywod eraill gymryd rhan mewn chwaraeon neu ddod yn hyfforddwragedd eu hunain hyd yn oed.

Mae cymryd rhan yn hawdd! Nid oes angen i chi fod yn seren ar y maes chwarae ac nid oes angen unrhyw gymwysterau ym maes chwaraeon arnoch chwaith am fod nifer o gampau yn gallu rhoi hyfforddiant sylfaenol i chi i ddechrau a gallwch benderfynu parhau â'r hyfforddiant hwn os ydych yn dymuno gwneud hynny. Parodrwydd i gymryd rhan yw'r unig beth y mae ei angen arnoch. Hyd yn oed os mai dim ond ychydig oriau sydd gennych i'w cynnig, mae digon o glybiau chwaraeon a sefydliadau yn chwilio am wirfoddolwyr eiddgar a brwdfrydig. Mae digon o swyddi ar gael mewn clybiau chwaraeon felly os nad ydych eisiau gwneud gwaith hyfforddi'n syth, gallwch gynorthwyo mewn nifer o ffyrdd eraill. Gall fod yn brofiad hynod o werthfawr a gwerth chweil, felly rhowch gynnig arni!

Er mwyn darganfod pa gyfleoedd sydd ar gael, cysylltwch ag uned datblygu chwaraeon eich awdurdod lleol neu gorff llywodraethol cenedlaethol y gamp sy'n eich diddori. Os oes gennych blant o oed ysgol gynradd, hwyrach yr hoffech gymryd rhan yn rhaglen Campau'r Ddraig sy'n darparu gweithgareddau allgyrsiol ychwanegol ar gyfer plant. Cynhelir nifer o'r clybiau hyn ar safleoedd ysgolion.

Cyrsiau hyfforddi ac ymgyrchoedd recriwtio ar gyfer menywod yn unig

Mae nifer o'r cyrff llywodraethol yng Nghymru yn dechrau cynnal cyrsiau hyfforddi ar gyfer menywod yn unig neu'n mynd ati'n fwriadol i recriwtio rhagor o hyfforddwragedd. Cysylltwch â'r corff llywodraethol ar gyfer eich camp er mwyn darganfod a yw'n cynnal unrhyw brosiectau o'r fath.

Sefydliad Chwaraeon i Ferched

Mae'r Sefydliad Chwaraeon i Ferched yn gweithio'n galed i wella cyfleoedd i fenywod a merched gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae gwefan y Sefydliad yn darparu llawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch yr hyn sy'n digwydd ym myd chwaraeon menywod ar draws y DU a sut i gymryd rhan, yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio a'r newyddion rhanbarthol diweddaraf.

Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru

Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.