Adnoddau Hyfforddi
Gallwch gael adnoddau hyfforddi o sawl man gan gynnwys y canlynol:
Cyngor Chwaraeon CymruMae'r Ganolfan Wybodaeth yng Nghyngor Chwaraeon Cymru yn cadw copïau o nifer o'r adnoddau sydd wedi'u hawgrymu ar y wefan hon. Y Ganolfan hon yw'r brif lyfrgell arbenigol ar gyfer gwybodaeth am chwaraeon yng Nghymru ac mae'n darparu ystod o adnoddau a gwasanaethau mewn perthynas â chwaraeon a hamdden. Yn ogystal, ceir adran arbennig ar hyfforddi sy'n cynnwys cyhoeddiadau, fideos a DVDs sydd ar gael i hyfforddwyr achrededig eu benthyg am dair wythnos.
Gallwch alw heibio'r Ganolfan Wybodaeth yn Athrofa Chwaraeon Cymru, Caerdydd. Mae'r Ganolfan ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10.30-12.30 a 2.30-4.30pm.
CoachwiseMae Coachwise yn cyhoeddi llyfrau chwaraeon, fideos a chanllawiau hyfforddi. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn hyfforddi chwaraeon, ffitrwydd ac ymarfer corff, gwyddor chwaraeon, dysgu addysg gorfforol neu reoli chwaraeon, bydd gan Coachwise rywbeth ar eich cyfer!
Coaching Edge
Mae Sports coach UK yn cyhoeddi cylchgrawn chwarterol a enwir yn Coaching Edge. Mae hyn yn adnodd gwerthfawr i bob hyfforddwr. I ddarganfod mwy o wybodaeth neu i greu tanysgrifiad cliciwch yma.
Y Cyrff Llywodraethol Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon
Os ydych yn chwilio am wybodaeth sy'n benodol i'ch camp, dylech gysylltu â'r corff llywodraethol cenedlaethol ar gyfer eich camp. Bydd gan y corff hwn restr o adnoddau y mae'n eu hargymell.
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
