Sboncen Cymru'n Creu Mwy o Hyfforddwyr Sboncen Iau
1 Ebr 2008 Canodd Max Boyce unwaith am yr "Outside Half Factory" lle roedd dynion ifanc deallus a chryf yn cael eu trawsnewid yn hudol i fod yn hanerwyr rhagorol i Gymru mewn ffatri gudd rywle yn y Cymoedd!Mae Sboncen Cymru’n creu ei ffatri ei hun ond nid yw’n un gudd a does dim hud yn perthyn i’r peth, dim ond gwaith caled a’r bartneriaeth ragorol sydd wedi datblygu rhwng Sboncen Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru.
Mae’r Cyngor Chwaraeon wedi cyllido Rhaglen Hyrwyddwyr Hyfforddi Sboncen Cymru sydd wedi eu galluogi i gyflogi Hyrwyddwyr Hyfforddi rhan-amser sydd wedi dechrau ar siwrnai o amgylch y wlad. Mae’r siwrnai wedi cynnwys pob Clwb a Chanolfan Hamdden mewn rhanbarthau penodedig yng Nghymru. Mae nod gan y Gweithredwyr, sef recriwtio mwy o ymgeiswyr hyfforddi o blith y criw o chwaraewyr a gwirfoddolwyr o’r gorffennol a’r presennol.
Mae’r pedair gwlad yn y DG wedi uno eu dyfarniadau hyfforddi er mwyn safoni a gwella’r gwaith o gyflwyno cyrsiau ledled Prydain. Mae hon yn system flaengar ar gyfer hyfforddwyr newydd a’r rhai sy’n bodoli eisoes a byddant yn mabwysiadu’r cymwysterau newydd hyn fel rhan o’u hailgyfeirio o Lefel 1 i fyny i Lefel 3, sy’n lefel newydd.
Mae Sboncen Cymru wedi creu Dyfarniad Arweinwyr newydd sy’n gyflwyniad i Sboncen Mini – y dull newydd o hyfforddi plant 5 i 11 oed – ar gyfer yr ymgeiswyr hyfforddi iau addawol.
Y penwythnos diwethaf, profodd chwaraewyr elitaidd ieuainc Sboncen Cymru Sboncen Mini ac roeddent wrth eu boddau! Daethant yn Arweinwyr mewn diwrnod. Cyflwynodd Bob Perry, Hyfforddwr Lefel 3 UKCC Sboncen Cymru, Tiwtor ac Aseswr, y Cwrs ar gyfer y Bechgyn Dan 15 / Dan 17 yn Athrofa Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd. Cyflwynodd Chris Rees, Tiwtor ac Aseswr Lefel 3 UKCC Sboncen Cymru, y Cwrs i’r Merched Dan 15 / Dan 17 yng Ngwesty a Champws Golff a Sba y Vale.
Aeth yr ymgeiswyr ati’n frwd i gyd yn eu rôl newydd fel "hyfforddwyr" a llwyddodd pawb gydag anrhydedd. Dywedodd Mike Workman, y Cyfarwyddwr Hyfforddi a Datblygu: "Mae hwn yn hysbyseb gwych i’r chwaraewyr ieuainc sy’n gynnyrch Strwythur Datblygu Iau Sboncen Cymru. Llongyfarchiadau i bawb. Rwy’n falch iawn o’n chwaraewyr ieuainc."
Fel rhan o’u gwaith bydd Hyrwyddwyr Hyfforddi Sboncen Cymru’n mentora hyfforddwyr newydd yn eu Clybiau / Canolfannau Hamdden ac yn darparu cyngor a chymorth i hyfforddwyr newydd a’r rhai sy’n bodoli eisoes, gan sicrhau gwasanaeth cefnogi cyflawn.
Arweinwyr Newydd Dan 15 / Dan 17 Oed
Katie Bradbury, Y Fro
Sioned Scott, Y Fro
Olivia Griffiths, Y Fro
Fiona Williams, Y Bontfaen
Becci Evans, Caerffili
Sasha Cocks, Llaneirwg
Sam Bergin, Caerffili
Sarah Clode, Y Tyllgoed
Nyall Driscoll, Caerdydd
Scott Gibson, Caerffili
George Evans, Trefynwy
Salil Gokhale, Y Fro
Robert Luke, Y Fro
Jacob Minett, Aberdâr
James Thomson, Aberdâr
Morgan Phillips, Aberdâr
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
Hyfforddwr/Wraig y Flwyddyn 2008
Ydych chi'n gwybod am hyfforddwr ddylai gael ei wobrwyo am ei ymroddiad a'i ymrwymiad?
Os felly, beth am ei enwebu am wobr hyfforddi gan Gyngor Chwaraeon Cymru?
Llwythwch lawr yma y manylion a'r ffurflen enwebu.
