Clinig Hyfforddi Pêl Fasged Cymru
1 Ebr 2008 Mae Pêl Fasged Cymru’n cynnal Clinig Hyfforddi ar ddydd Sul 20fed Ebrill 2008 yn APCC, Caerdydd. Mae’r clinig ar gyfer hyfforddwyr newydd a phrofiadol a bydd amrywiaeth o sesiynau’n cael eu cynnal, yn addas i wahanol anghenion. Mae hwn yn gyfle ffantastig i sicrhau gwybodaeth bellach gan gyflwynwyr arbenigol – peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn!!Ymhlith y cyflwynwyr mae:
Damian Jennings – Hyfforddwr Cynorthwyol Merched PF, Saethyddwyr APCC a Phrif Hyfforddwr Merched Hŷn Cymru, Tiwtor Hyfforddi Pêl Fasged Cymru.
Mae Damian yn gyflwynydd ysbrydoledig ac mae wedi cael ei ddewis gan Bêl Fasged Prydain a Phêl Fasged Cymru fel hyfforddwr arweiniol y dyfodol ac ef gafodd yr unig le i Gymru gyda Thystysgrif Hyfforddi Ewrop FIBA.
Dr Duncan French – Hyfforddwr Cryfder a Siapio Pêl Fasged Prydain.
Mae Duncan wedi gweithio gydag athletwyr elitaidd mewn sawl camp ac wedi ennill PhD o Brifysgol Connecticut tra’n ymwneud â’r rhaglen NCAA yno. Mae’n gweithio’n llawn amser i Pêl Fasged PF a dewisodd FIBA Ewrop ef fel yr arbenigwr C a S i gyflwyno Tystysgrif Hyfforddi Ewrop.
Vic Fleming – Hyfforddwr Cynorthwyol Dynion Hŷn Cymru, Tiwtor Hyfforddi Pêl Fasged Cymru, Prif Hyfforddwr Academi Iau Gwent.
Mae gan Vic CV pêl fasged anhygoel. Mae’n arbenigo mewn datblygu chwaraewyr ieuainc ac mae wedi teithio i bob cwr o’r byd i ddysgu gan hyfforddwyr a systemau eraill. Rydym yn ffodus ei fod yn dod â’r syniadau gorau yn ôl adref i ni yma yng Nghymru.
Dr Steven Lloyd – Uwch-Reolwr newydd Pêl Fasged Cymru a chyn-Gyfarwyddwr Hyfforddi a Phrif Hyfforddwr y Dynion Hŷn.
Mae Steve wedi ennill profiad hyfforddi yn y DG ac America. Mae wedi treulio blynyddoedd lawer fel Arolygydd Ysgolion gyda ffocws arbennig ar AG mewn ysgolion ac mae’n teimlo’n angerddol dros bêl fasged a gwella iechyd plant.
Trudie Hopgood – Swyddog Datblygu Iau Pêl Fasged Cymru (ffocws ar Ben-y-bont ar Ogwr), cyn-Hyfforddwr Cenedlaethol Iau (Malta), Ymgynghorydd Hyfforddi Preifat (Awstralia).
Mae gan Trudie brofiad o rai o’r rhaglenni pêl fasged gorau yn y byd gan ei bod wedi chwarae drwy system ddatblygu Awstralia ac yn Adran 1 NCAA. Mae wedi hyfforddi mewn nifer o wledydd ac mae ganddi ddiddordeb brwd mewn datblygu chwaraewyr a hyfforddwyr sylfaenol gadarn.
Am fanylion pellach ac i archebu lle, gweler y daflen ynghlwm. Rhowch y daflen i unrhyw un fyddai â diddordeb yn eich tyb chi.
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
Hyfforddwr/Wraig y Flwyddyn 2008
Ydych chi'n gwybod am hyfforddwr ddylai gael ei wobrwyo am ei ymroddiad a'i ymrwymiad?
Os felly, beth am ei enwebu am wobr hyfforddi gan Gyngor Chwaraeon Cymru?
Llwythwch lawr yma y manylion a'r ffurflen enwebu.
