“Mae hyfforddwyr medrus, hyderus a galluog yn hanfodol i lwyddiant chwaraeon Cymru”
27 Mehef 2008Mae Canolfan DU newydd ar gyfer Rhagoriaeth Hyfforddi wedi'i lansio yn Leeds heddiw (26 Mehefin) gan sports coach UK. Mae’r Ganolfan yn cael ei gweld fel rhan allweddol o Fframwaith Hyfforddi’r DU, a lansiwyd ym mis Ebrill eleni, sy’n anelu at greu system hyfforddi gyda’r gorau yn y byd erbyn 2016.
Yng Nghymru, mae hyfforddiant ac arweiniad ym maes chwaraeon yn parhau i dyfu o ran ansawdd a sgôp yn sgil Cynllun Hyfforddiant Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Cymru, a lansiwyd bron i 4 blynedd yn ôl.
Erbyn hyn mae tua 40,000 o hyfforddwyr ac arweinwyr wedi’u hyfforddi i gyflwyno sesiynau chwaraeon a gweithgareddau corfforol i blant, pobl ifanc ac oedolion. Bellach mae gan Gymru rwydwaith o 18 o Gydgysylltwyr Addysg Hyfforddiant yn gweithio gyda chlybiau i hyrwyddo hyfforddiant ac addysg hyfforddiant mewn chwaraeon, a chyflogir 108 o hyfforddwyr cymunedol i ddatblygu arweinwyr a hyfforddwyr newydd mewn clybiau ledled Cymru.
Mae Cynllun Hyfforddiant Cymru wedi cynorthwyo 17 o gampau chwaraeon i ennill Tystysgrif Hyfforddiant y DU, gyda phump ohonynt yn gallu darparu eu gwasanaethau yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg. Gall hyfforddwyr sicrhau cyllid ar gyfer cyrsiau addysg hyfforddiant drwy gynllun grant Y Gist Gymunedol gan Gyngor Chwaraeon Cymru a rhaglen Coach Cymru.
Bydd Canolfan Ragoriaeth Hyfforddi newydd y DU yn cynnig pwynt cyfeirio canolog i ddatblygu hyfforddwyr medrus ledled y DU drwy addysg ac ymchwil. Bydd y Ganolfan hefyd yn rhoi cyngor ar ddatblygu a chyflwyno Tystysgrif Hyfforddiant Lefel 4 y DU a bydd yn cefnogi Cyngor Chwaraeon Cymru i roi Fframwaith y DU ar waith drwy Gynllun Hyfforddiant Cymru.
Croesawodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, lansiad Canolfan Ragoriaeth Hyfforddiant y DU, gan ddweud:
Rwy’n croesawu lansiad Canolfan Ragoriaeth Hyfforddiant y DU. Mae hyfforddwyr a hyfforddiant chwaraeon yn flaenoriaeth gydnabyddedig gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae hyfforddwyr medrus, hyderus a galluog yn hanfodol i sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac i sicrhau llwyddiant chwaraeon yng Nghymru.
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
Hyfforddwr/Wraig y Flwyddyn 2008
Ydych chi'n gwybod am hyfforddwr ddylai gael ei wobrwyo am ei ymroddiad a'i ymrwymiad?
Os felly, beth am ei enwebu am wobr hyfforddi gan Gyngor Chwaraeon Cymru?
Llwythwch lawr yma y manylion a'r ffurflen enwebu.
