Rwy'n newydd i'r byd hyfforddi ac fe hoffwn ddilyn cwrs sylfaenol byr i ddechrau
Os ydych yn ansicr ynghylch cymryd y cam i fod yn hyfforddwr cymwys, beth am roi cynnig ar gwrs cyflwyniadol i ddechrau - mae'n ffordd wych o gael cipolwg ar y byd hyfforddi a gweld a yw'n addas ar eich cyfer chi. Hefyd, cyrsiau cyffredinol yw'r mwyafrif ohonynt ac felly os nad ydych yn sicr eto ynghylch pa gamp rydych am ei hyfforddi, bydd cwrs cyffredinol yn fan cychwyn gwych. Ceir nifer o sefydliadau sy'n cynnal cyrsiau byr. Rydym wedi crynhoi'r rhain isod:
Arweinwyr Chwaraeon y DG
Os ydych yn awyddus i fynd ar gwrs cyflwyniadol a fydd yn gweithredu fel carreg gamu i fod yn hyfforddwr, yna gallech ddechrau drwy weithio at Ddyfarniad Arweinydd Chwaraeon. Does dim rhaid i chi fod yn seren yn y byd chwaraeon i gymryd rhan ac mae'r dyfarniadau hyn ar gael i bawb sy'n 14 oed neu hŷn. Maent yn gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol ar lefelau 1, 2 a 3 ac maent yn datblygu amrywiaeth o sgiliau arwain, fel cynllunio, paratoi a chyflwyno sesiwn chwaraeon. Mae'r dyfarniadau'n aml-chwaraeon ac felly'n fan cychwyn delfrydol i bawb sydd eisiau arwain neu hyfforddi gweithgareddau chwaraeon. Mae'r Dyfarniadau Arweinydd Chwaraeon yn sicrhau eich bod yn dysgu drwy weithredu. Byddwch yn arwain chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel gwirfoddolwr fel rhan o'r cwrs. Byddwch yn dysgu sut i'ch trefnu a'ch cymell eich hun a phobl eraill ac yn gwella eich sgiliau cyfathrebu. Gall hyn roi hwb i'ch hyder a'ch helpu ym myd gwaith, addysg ac am oes.
Dywedwch fwy wrthyf am Gyrsiau Arwain.
Campau'r Ddraig
Os oes gennych ddiddordeb mewn hyfforddi plant oed cynradd mewn chwaraeon amrywiol, fel athletau, criced, pêl droed, hoci, pêl rwyd, rygbi, tenis neu gemau ymosod, efallai mai rhaglen Campau'r Ddraig yw'r rhaglen i chi. Menter gan Gyngor Chwaraeon Cymru yw Campau'r Ddraig ac fe'i hariennir gan y loteri. Mae'r rhaglen yn dibynnu'n helaeth iawn ar wirfoddolwyr i helpu gyda chynnal gemau a gweithgareddau chwaraeon ar gyfer clybiau ar ôl ysgol a chlybiau cymunedol. Does dim angen unrhyw brofiad gan fod hyfforddiant a chefnogaeth yn cael eu darparu i'r gwirfoddolwyr i gyd. Mae gweithdy trefnyddion Campau'r Ddraig, y mae'n orfodol ei fynychu fel rhan o'r cynllun, yn cyflwyno'r gwirfoddolwyr i'r rhaglen ac yn darparu syniadau gwych ynghylch addasu ac arwain gweithgareddau.
Dywedwch fwy wrthyf am Gampau'r Ddraig
Hefyd, beth am edrych yng ngwefan y corff rheoli cenedlaethol ar gyfer y gamp(au) yr ydych yn ymddiddori ynddi. Mae rhai cyrff rheoli yng Nghymru'n cynnal cwrs sylfaenol neu gyflwyniadol felly os ydych yn gwybod pa gamp rydych am ei hyfforddi, beth am fynd am dro i'w safle nhw.
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
Hyfforddwr/Wraig y Flwyddyn 2008
Ydych chi'n gwybod am hyfforddwr ddylai gael ei wobrwyo am ei ymroddiad a'i ymrwymiad?
Os felly, beth am ei enwebu am wobr hyfforddi gan Gyngor Chwaraeon Cymru?
Llwythwch lawr yma y manylion a'r ffurflen enwebu.
