Rwyf eisiau gwybod sut beth yw bod yn hyfforddwr
Os ydych eisiau mynd gam ymhellach gyda'ch diddordeb mewn chwaraeon, beth am fod yn hyfforddwr? Mae hyfforddi'n rhoi llawer o foddhad. Gall sicrhau eich bod yn dysgu llu o sgiliau newydd y gellir eu defnyddio mewn meysydd eraill yn eich bywyd, gan sicrhau budd i'ch datblygiad personol a'ch cyfleoedd gyrfaol.
Mae angen hyfforddwyr ar bob lefel mewn chwaraeon, o ddechreuwyr i berfformwyr elitaidd. Waeth beth yw'r lefel, mae swyddogaeth yr hyfforddwyr yn amhrisiadwy, yn creu'r amgylchedd priodol ar gyfer darparu'r profiadau chwaraeon gorau posibl i bobl, profiadau a fydd yn sicrhau eu bod yn dal ati i gymryd rhan yn y gamp.
Beth sy'n gwneud hyfforddwr da?
Dylai hyfforddwr da:
- Darparu amgylchedd diogel, hwyliog a phriodol i gymryd rhan ynddo i'r perfformwyr i gyd
- Meddu ar gymwysterau hyfforddi diweddar a phriodol a bod yn fodlon derbyn hyfforddiant pellach i ddatblygu a chynnal safon ei fedrusrwydd
- Rhoi lles pob perfformiwr yn gyntaf - o flaen ennill neu gyrraedd nodau
- Trin y chwaraewyr i gyd, waeth pwy ydynt, yn deg a chyda pharch ac urddas
- Sicrhau perthynas gytbwys gyda'r chwaraewyr, yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch
- Cyfrannu mewnbwn priodol at berfformiad ei chwaraewyr
- Rhoi adborth brwdfrydig ac adeiladol, yn hytrach na beirniadaeth negyddol
- Cydnabod anghenion y perfformwyr
- Dod i adnabod ei berfformwyr a'u rhieni / gofalwyr
- Hybu chwarae teg
- Bod yn fodel rôl rhagorol drwy ymddwyn yn briodol bob amser
- Meddu ar yswiriant diweddar a phriodol.
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
Hyfforddwr/Wraig y Flwyddyn 2008
Ydych chi'n gwybod am hyfforddwr ddylai gael ei wobrwyo am ei ymroddiad a'i ymrwymiad?
Os felly, beth am ei enwebu am wobr hyfforddi gan Gyngor Chwaraeon Cymru?
Llwythwch lawr yma y manylion a'r ffurflen enwebu.
