Rwyf eisiau gwybod sut beth yw bod yn hyfforddwr
Pa sgiliau wyf eu hangen i hyfforddi?
Mae hyfforddwyr yn cael eu hystyried fel modelau rôl yn aml iawn gan eu perfformwyr ac felly mae hyfforddwyr angen llawer o sgiliau a rhinweddau er mwyn gwneud eu gwaith yn effeithiol. Y pwysicaf yw brwdfrydedd; byddwch yn cael y gorau o'r bobl rydych yn eu hyfforddi drwy fod yn frwdfrydig a gweithgar. Mae hefyd yn bwysig bod gan yr hyfforddwr y sgiliau a ganlyn:
- sgiliau trefnu da,
- gwybodaeth dda am y gamp,
- y gallu i gyfathrebu a'r gallu i ysbrydoli'r rhai mae'n eu hyfforddi.
Gall rôl yr hyfforddwr fod yn eithaf amrywiol yn aml; mewn sawl sefyllfa, mae'n ofynnol i'r hyfforddwr gyfuno ei hyfforddiant gyda thasgau eraill, fel dyletswyddau gweinyddol, cyfrifoldebau ariannol a chysylltu gyda sefydliadau hyfforddi eraill. Mae'n bwysig felly bod gan yr hyfforddwr amrywiaeth o sgiliau i allu gwneud hyn.
Beth ddyliwn i ei wneud nesaf a sut mae dysgu'r sgiliau hyn?
Mae rhoi eich enw ar gyfer derbyn hyfforddiant yn gam doeth. Does dim raid i chi anelu'n syth am gymhwyster chwaraeon-benodol gan fod nifer fawr o sefydliadau'n cynnig cyrsiau arweinwyr neu gyflwyniadol amrywiol. Bydd y math yma o gwrs yn eich galluogi i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau, fel cynllunio, paratoi a chyflwyno sesiwn chwaraeon. Yn aml iawn, mae'r dyfarniadau'n aml-chwaraeon ac felly'n fan cychwyn delfrydol i bawb sydd eisiau ymwneud â hyfforddi chwaraeon. Bydd y wefan hon yn cyflwyno'r holl wybodaeth rydych ei hangen i gael hyd i hyfforddiant priodol. Efallai eich bod am ystyried y canlynol hefyd:
- Pa gamp(au) ydych chi am eu hyfforddi?
- Pa grŵp oedran ydych chi eisiau ei hyfforddi?
- Ble allwch chi hyfforddi a pha gyfleoedd sydd ar gael yn lleol e.e. cael hyd i glwb / ysgol / sefydliad chwaraeon lleol?
- Pa fath o gymhwyster ydych chi eisiau ei ennill i ddechrau?
Bydd y safle yma'n eich helpu gyda'r cwestiynau uchod i gyd!
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
