Hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg
Ceir ffocws i ehangu'r cyfleoedd i hyfforddi chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ddiweddar, mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi cyflogi Swyddog Iaith Gymraeg. Cylch gorchwyl y swydd hon yw cydlynu gweithgareddau sefydliadau, sicrhau mwy o gyfleoedd ar gyfer hyfforddi chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg a hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg yng ngwaith craidd Cyngor Chwaraeon Cymru.
Credir hefyd y bydd Tystysgrif Hyfforddi'r DG yn arwain at gynnydd yn y defnydd o'r iaith Gymraeg. Mae'r chwaraeon hynny yng Nghymru sy'n ymwneud â'r dystysgrif hon yn ymroddedig i gynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg ac yn y dyfodol maent yn gobeithio gallu darparu adnoddau Cymraeg i hyfforddwyr.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael os ewch i wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
Hyfforddwr/Wraig y Flwyddyn 2008
Ydych chi'n gwybod am hyfforddwr ddylai gael ei wobrwyo am ei ymroddiad a'i ymrwymiad?
Os felly, beth am ei enwebu am wobr hyfforddi gan Gyngor Chwaraeon Cymru?
Llwythwch lawr yma y manylion a'r ffurflen enwebu.
