Dod yn well hyfforddwr - 'Datblygiad Proffesiynol Parhaus'. Beth yw hwn a sut mae'n berthnasol i mi?

Mae chwaraeon yn newid yn barhaus ac mae hyn yn cynnig her i bawb sy'n ymwneud â chwaraeon, ac yn arbennig felly'r hyfforddwyr. Cydnabyddir bod i'r hyfforddwr ran ganolog mewn unrhyw gamp ac felly mae'n bwysig ei fod yn cadw i fyny â'r datblygiadau diweddaraf er mwyn sicrhau ei fod yn darparu'r amgylchedd iawn ar gyfer y rhai y mae'n eu hyfforddi. P'un a ydych newydd ddechrau hyfforddi, neu wedi bod wrthi ers blynyddoedd maith, mae'r un mor bwysig eich bod yn cadw i fyny â datblygiadau newydd ac yn dod o hyd i ffyrdd newydd o wella eich hun yn barhaus.

Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i wella eich gallu i hyfforddi a chynyddu eich gwybodaeth. Nid yw Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yn golygu bod yn rhaid i chi ddilyn cyrsiau newydd o hyd; mae cyrsiau yn gallu bod yn fuddiol iawn ond mae yna nifer o bethau eraill y gallech eu gwneud yn ogystal, megis:

  • Mynychu gweithdai neu seminarau unigol.
  • Darllen y wefan hon! Gobeithio y bydd yn eich cyfeirio at nifer o fannau lle gallwch gael gwybodaeth newydd.
  • Dod o hyd i lyfrau, cyfnodolion neu'r ymchwil ddiweddaraf ar hyfforddi. Mae dolenni cyswllt i'w cael ar y wefan hon.
  • Troi at wefannau sefydliadau hyfforddi neu wefannau'r chwaraeon y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Mae dolenni cyswllt i'w cael ar y wefan hon.
  • Siarad â hyfforddwyr eraill.
  • Arsylwi hyfforddwyr eraill.
  • Gofyn i hyfforddwyr eraill eich arsylwi chi.

Mae'n ymddangos bod dyfodol disglair i hyfforddi. Mae'r llywodraeth wedi rhoi cryn sylw i hyfforddi yn ddiweddar, sy'n golygu bod y diwydiant yn gwella ac yn dod yn fwy proffesiynol. Yn y dyfodol, bydd ffocws llawer mwy pendant i gymwysterau hyfforddi, a bydd digon o gyfleoedd i fynychu gweithdai unigol sy'n ymdrin yn benodol ag agweddau technegol eich camp, neu â materion cyffredinol megis hyfforddi plant.

Fel y gwelwch, mae yna ddigonedd o ffyrdd o gael rhagor o wybodaeth am hyfforddi. Bwriad y wefan hon yw eich rhoi chi ar y trywydd iawn a'ch cynorthwyo i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Pob lwc ...

Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru

Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.